Sandra Mason | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Sandra Prunella Mason ![]() 17 Ionawr 1949 ![]() Saint Philip ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, gwleidydd ![]() |
Swydd | Governor-General of Barbados, President of Barbados ![]() |
Gwobr/au | Uwch Groes Urdd y Saint Mihangel a Sior, i Ferched ![]() |
Arlywydd cyntaf a phresennol Barbados yw Sandra Prunella Mason FB GCMG DA QC (ganwyd 17 Ionawr 1949). Cafodd ei hethol gan Senedd Barbados ar 20 Hydref 2021 i ddod yn arlywydd cyntaf y wlad, a daeth yn ei swydd ar 30 Tachwedd 2021, pan beidiodd Barbados â bod yn frenhiniaeth gyfansoddiadol a daeth yn weriniaeth.
Gwleidydd, cyfreithiwr a diplomydd yw Mason sydd wedi gwasanaethu fel barnwr Uchel Lys yn Sant Lwsia a barnwr Llys Apêl yn Barbados. Hi oedd y fenyw gyntaf a dderbyniwyd i'r Bar yn Barbados. Gwasanaethodd fel cadeirydd comisiwn CARICOM i werthuso integreiddio rhanbarthol, hi oedd yr ynad cyntaf a benodwyd yn llysgennad o Barbados, a hi oedd y fenyw gyntaf i wasanaethu ar Oruchaf Lys y wlad.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search